Page 38 - Gŵyr Bryntawe 6th Form Prospectus 2022
P. 38

 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Sengl neu Dwbl)
Pam astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol? (Sengl neu Dwbl)?
Mae’r pwnc yn darparu cyrsiau astudio cydlynol, boddhaus a gwerthfawr. Mae’n cynnig sylfaen addas ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol drwy amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, neu i gyflogaeth. Gallwch hefyd symud ymlaen i gymwysterau eraill o fewn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant. Byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o sut mae darpariaeth gwasanaethau yng Nghymru yn cefnogi datblygiad a llesiant unigolion i’w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus, nawr ac yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’r cyrsiau yn cynnwys materion cyfoes mewn perthynas â darparu system iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant foesegol a chynaliadwy yng Nghymru, a bydd yn eich galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â chyfleoedd dysgu pellach neu wneud dewisiadau gyrfaol cysylltiedig.
Drwy astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant, byddwch yn gallu dangos eich bod:
• yn deall y materion moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant
• yn ymwybodol o’r egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n sail i iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant
• yn deall y dulliau plentyn-ganolog neu berson-ganolog o ofalu
• yn gallu dehongli a gwerthuso damcaniaethau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, a myfyrio ar sut maen nhw’n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau
• yn gallu nodi’r ffactorau cymdeithasegol, seicolegol a biolegol sy’n cyfrannu at iechyd da, ac esbonio rôl llywodraeth a gweithwyr proffesiynol wrth hyrwyddo a chynnal iechyd da
• yn gallu defnyddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel y bo’n briodol o fewn eich astudiaethau.
   SENGL
UG/Uwch Iechyd a Gofal cymdeithasol a gofal plant
 Unedau
Asesiad
Uned 1: Hybu Iechyd a Llesiant
50% Safon AS 20% Safon Uwch
Arholiad ysgrifenedig 2 awr.
80 marc .
Bydd arholiad ysgrifenedig yn yr Haf pan fyddwch ym mlwyddyn 12.
Uned 2: Cefnogi Iechyd a Llesiant a gwydnwch yng Nghymru
50% Safon AS 20% Safon Uwch
Asesiad di -arholiad 30 awr/ 100 marc. Bydd angen i chi gwblhau tasg asesiad di- arholiad ar sut mae iechyd, llesiant a gwydnwch unigolion yng Nghymru yn cael ei cefnogi drwy ofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Uned 5: Safbwyntiau damcaniaethol ynghylch ymddygiad oedolion
30% Safon Uwch
Arholiad ysgrifenedig 2 awr 30 munud 100 marc. Bydd arholiad ysgrifenedig yn yr Haf pan fyddwch ym mlwyddyn 13. Mae’r arholiad mewn dwy adran. Bydd Adran A yn ymwneud a deunydd sy’n cael ei ryddhau o flaen llaw.
Uned 6: Cefnogi oedolion i gynnal Iechyd,llesiant a gwydnwch
30% Safon Uwch
Asesiad di -arholiad 40 awr/ 100 marc. Bydd angen i chi gwblhau tasg asesiad di- arholiad lle byddwch chi’n cynhyrchu adnodd gwybodaeth i rywun sy’n cynllunio ar gyfer gyrfa yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol oedolion yn y dyfodol.
   DWBL
Tystysgrif Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a chyd destunau
 Unedau
Asesiad
Uned 1: Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel o fewn gofal peson ganolig sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
Asesiad di arholiad. 25% o’r cymhwyster 20 awr 100 marc.
Bydd angen i chi gwblhau dau asesiad di arholiad dan amodau rheoledig. Bydd hyn yn cynnwys ysgrifennu adroddiad a llunio pecyn gwybodaeth. Byddan nhw’n cael eu marcio gan eich athro a’u cymedroli gan CBAC.
Uned 2 : Ffactorau sy’n effeithio ar dwf a datblygiadunigolion ar bob cam o’r rhychwant oesasutmaehynyn effeithioar ganlyniadau ac anghenion gofal a chymorth
Asesiad allanol
50% o’r cymhwyster 1 awr a 45 munud.
100 marc.
Bydd arholiad ysgrifenedig ym Mis Ionawr a Mis Mai/Mehefin bob blwyddyn. Mae egnnych chi dau gyfle i sefyll yr asesiad hwn, os oes angen a bydwch chi’n derbyn y marc gorau.
Uned 3 : Hybu hawliau unigolyn ar bob cam o’r rhychwant oes
Asesiad di arholiad. 25% o’r cymhwyster 20 awr
80 marc.
Bydd angen i chi gwblhau un asesiad di arholiad dan amodau rheoledig. Gall fod yn seiliedig ar grŵp o unigolion o’ch dewis chi a rhaid i chi gynhyrchu tystiolaeth, naill ai fel podleidiad, cyflwyniad neu fidio. Bydd yn cael ei marcio gan eich athro a’i chymedroli gan CBAC.
                           35
   





















































   36   37   38   39   40